We are looking for new board members to join Omidaze Productions Ltd and help guide the next stage of our journey. If you believe in the power of the arts to inform, inspire and create social change, we would love to hear from you./
Ymunwch â’n Bwrdd
Rydym yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â bwrdd Omidaze Productions Ltd a helpu i’n harwain ar gam nesaf ein taith. Os ydych chi’n credu yng ngrym y celfyddydau i hysbysu, ysbrydoli a chreu newid cymdeithasol, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych chi. (Scroll down for Welsh)
You don’t need previous board experience – just a willingness to contribute, learn, and support our vision.
Who we are
Omidaze (Oh My Days!) Productions was founded in 2008 to use theatre, the arts and creativity to empower people and challenge the status quo.
We are a small, values-led company based in Penarth, South Wales, working across three areas:
- Creative Content (live and digital)
- Creative Learning
- Consultancy
From Shakespeare summer schools to radical reinterpretations of the classics, and now bold, ongoing projects like The Democracy Box and The Talking Shop, we’ve always used the arts to ask big questions – and to open doors for people and voices that are often left out.
We became Omidaze Productions Ltd in 2025 – a social enterprise and not-for-profit company limited by guarantee – to reflect our values and the world we want to help shape.
Who we’re looking for
We’re building a new Board of Directors to help lead us into the future.
We’re looking for up to five new board members, and we’re particularly keen to hear from people who:
- Have lived experience that is underrepresented in decision-making spaces
- May not have board or governance experience but are keen to grow and contribute
- Are passionate about social justice, climate action, and democratic engagement
- Share our belief in the power of arts and culture to shape society
We also welcome those with skills and experience in areas such as:
- Finance / Accounting
- Legal / Governance
- Human Resources
- Technology / AI and digital innovation
But please don’t be put off if your skills or background don’t match a traditional board role – we value a diversity of perspectives, not just professional qualifications.
Our values
At Omidaze, we:
- Collaborate, co-create and partner
- Put creativity at the core of how we work and learn
- Aim to motivate, empower, inform and inspire
- Are guided by the Well-being of Future Generations Act (Wales) and the UN’s Sustainable Development Goals
We are also driven by a belief that access to arts and culture is a fundamental right, alongside access to education and health.
What being a board member means
As a board member (Director), you’ll support and challenge the company to stay true to its mission and values, make strategic decisions, and help us grow our impact.
You’ll need to attend quarterly board meetings (mostly online), contribute to discussions, and act as a critical friend to the company and its leadership.
This is a voluntary, unpaid position.
We are committed to creating an inclusive and supportive board. We’ll provide a full induction, and ongoing support and training as needed.
Ready to express interest?
If you’d like to find out more or have an informal chat, please get in touch.
You can send your expression of interest (this can be in writing, video or audio – whichever is easiest for you) to: omidaze@outlook.com
Let us know:
- Why you’re interested in joining the board
- What you feel you can bring
- Anything you’d like to ask or need to support your application
The deadline for expressions of interest is January 5 2026.
We look forward to hearing from you!
………………………………………………………………………………………………………………………………………
Ymunwch â’n Bwrdd
Rydym yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â bwrdd Omidaze Productions Ltd a helpu i’n harwain ar gam nesaf ein taith. Os ydych chi’n credu yng ngrym y celfyddydau i hysbysu, ysbrydoli a chreu newid cymdeithasol, byddem wrth ein boddau yn clywed gennych chi.
Does dim angen profiad blaenorol ar fwrdd arnoch – dim ond parodrwydd i gyfrannu, dysgu a chefnogi ein gweledigaeth.
Pwy yw Omidaze?
Sefydlwyd Omidaze (Oh My Days!) Productions yn 2008 i ddefnyddio theatr, y celfyddydau a chreadigrwydd i rymuso pobl a herio’r statws quo.
Rydym yn gwmni bach, a arweinir gan werthoedd, ym Mhenarth yn ne Cymru, ac yn gweithio mewn tri maes:
- Cynnwys Creadigol (byw a digidol)
- Dysgu Creadigol
- Ymgynghoriaeth
O ysgolion haf Shakespeare i ailddehongliadau radical o’r clasuron, ac erbyn hyn brosiectau mentrus fel The Democracy Box a The Talking Shop, rydym bob amser wedi defnyddio’r celfyddydau i ofyn cwestiynau mawr – ac i agor drysau i bobl a lleisiau sy’n aml yn cael eu tangynrychioli.
Daethom yn Omidaze Productions Ltd yn 2025 – menter gymdeithasol a chwmni nid-er-elw cyfyngedig drwy warant – i adlewyrchu ein gwerthoedd a’r byd rydym am helpu i’w lunio.
Am bwy rydym yn chwilio?
Rydym yn adeiladu Bwrdd Cyfarwyddwyr newydd i helpu i’n harwain i’r dyfodol.
Rydym yn chwilio am hyd at bum aelod newydd i’r bwrdd, ac rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl sydd:
- Yn meddu ar brofiad byw a gaiff ei dangynrychioli mewn mannau lle gwneir penderfyniadau
- Efallai nad oes ganddynt brofiad o fod ar fwrdd nac o lywodraethu, ond maent yn awyddus i ddatblygu eu hunain a chyfrannu
- Yn angerddol dros gyfiawnder cymdeithasol, gweithredu dros yr hinsawdd, ac ymgysylltu democrataidd
- Yn credu, fel ninnau, ym mhŵer y celfyddydau a diwylliant i ddylanwadu ar gymdeithas
Rydym hefyd yn croesawu’r rhai sydd â sgiliau a phrofiad mewn meysydd fel:
- Cyllid / Cyfrifeg
- Cyfreithiol / Llywodraethu
- Adnoddau Dynol
- Technoleg / Deallusrwydd Artiffisial ac arloesedd digidol
Ond peidiwch â chael eich digalonni os nad yw eich sgiliau na’ch cefndir yn cyd-fynd â rôl draddodiadol ar fwrdd – gwerthfawrogwn amrywiaeth o safbwyntiau, nid cymwysterau proffesiynol yn unig.
Ein gwerthoedd
Yn Omidaze, rydym:
- Yn cydweithio, cyd-greu a phartneru
- Yn rhoi creadigrwydd wrth wraidd y ffordd rydym yn gweithio ac yn dysgu
- Yn anelu at ysgogi, grymuso, hysbysu ac ysbrydoli
- Yn cael ein harwain gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig
Cawn hefyd ein gyrru gan y gred bod mynediad at y celfyddydau a diwylliant yn hawl sylfaenol, ochr yn ochr â mynediad at addysg ac iechyd.
Beth mae bod yn aelod o’r bwrdd yn ei olygu?
Fel aelod o’r bwrdd (Cyfarwyddwr), byddwch yn cefnogi ac yn herio’r cwmni i aros yn driw i’w genhadaeth a’i werthoedd, yn gwneud penderfyniadau strategol, ac yn ein helpu i gynyddu ein heffaith.
Bydd angen ichi fynychu cyfarfodydd y bwrdd bob chwarter (ar-lein yn bennaf), cyfrannu at drafodaethau, a bod yn ffrind beirniadol i’r cwmni a’i arweinwyr.
Swydd wirfoddol, ddi-dâl yw hon.
Rydym wedi ymrwymo i greu bwrdd cynhwysol a chefnogol. Byddwn yn darparu sesiwn anwytho / sefydlu lawn, a chymorth a hyfforddiant parhaus yn ôl yr angen.
Yn barod i fynegi diddordeb?
Os hoffech ddysgu rhagor am y cyfle hwn neu os hoffech gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â ni.
Gallwch anfon eich mynegiant o ddiddordeb (gall hwn fod yn ysgrifenedig, fideo neu sain – pa un bynnag sydd hawsaf i chi) i: omidaze@outlook.com
Dywedwch wrthym:
- Pam mae gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r bwrdd?
- Yr hyn rydych chi’n teimlo y gallwch chi ei gyfrannu
- Unrhyw beth yr hoffech ei ofyn neu ei angen i gefnogi eich cais
Y dyddiad cau ar gyfer mynegiadau o ddiddordeb yw 5 Ionawr 2025
Edrychwn ymlaen at glywed gennych!